Mae'r CD-Rom “rethink.retreads” yn llawn o wybodaeth
ddefnyddiol yn gynnwys adroddiadau delweddau a chysylltiadau I wefannau
perthnasol. Er mwyn I dderbyn eich copi did al o'r CD, cwblhewch
yr holiadur as-linell gan
A ilfeddwl am ailwadnu Canllawiau awdurdodol i brynwyr
sydd yn chwilio am y gwerth gorau wrth brynu teiars i’r
fflyd o gerbydau, ac i lunwyr polisi sydd eisiau cyfrannu at
ddatblygiad cynaliadwy yng Nghymru. Er bod y canllawiau hyn
yn canolbwyntio yn bennaf ar gerbydau masnachol mawr (tryciau,
lorïau, bysus ac yn y blaen) mae llawer o’r wybodaeth
sydd yn ‘ailfeddwl am ailwadnu’ yr un mor berthnasol
i gwmnïau masnachol bychan a chwmnïau sy’n arbenigo
ar deiars i deithwyr. Ydych chi yn wir yn gwybod y ffeithiau? Mae ‘ailfeddwl am ailwadnu’
yn ceisio gwella dealltwriaeth pobl am deiars sydd wedi cael
eu hailwadnu, gan egluro beth yn union yw teiar wedi ei ailwadnu.
Byddwn yn ceisio goleuo pobl ynglyn â’r pryderon
di-sail a threuliedig sydd ganddynt am deiars o’r fath.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod bod teiars sydd wedi
cael eu hailwadnu yn fasnachol yn costio llawer iawn llai na
theiar newydd a bod ailwadnu yn golygu y gellir cael y gwerth
mwyaf posib allan o gasyn y teiar. (Y casyn yw’r rhan
o’r teiar sy’n costio’r mwyaf i’w gynhyrchu).
Ond, gan amlaf, nid yw pobl yn sylweddoli bod ailwadnu yn ddiwydiant
modern, technoleg uchel sydd â safonau diogelwch mwy caeth
nag sydd yn y diwydiant cynhyrchu teiars newydd. Mae 40% o gerbydau
masnachol y Deyrnas Unedig yn defnyddio teiars wedi eu hailwadnu.